Mae’r hyn rydyn ni i gyd wedi bod yn gweithio tuag ato o’r diwedd yma. Mae Deddf Rhentu Cartrefi Cymru (RHWA) a’i newidiadau wedi cyrraedd ac o heddiw ymlaen, byddwn yn gweithredu’r newidiadau hynny – p’un a yw hynny’n rhannu’r contractau meddiannaeth newydd â’n tenantiaid newydd, gan ymgorffori ein polisïau a’n gweithdrefnau newydd, yn ogystal â sicrhau bod ein tenantiaid presennol yn barod i’w contractau newydd gyrraedd yn y flwyddyn newydd.
Yr hyn sydd heb newid ac na fydd yn newid yw ein hymrwymiad i gefnogi ein cymunedau a darparu gwasanaethau rhagorol. Ni fydd y ffordd rydych chi’n talu eich rhent yn newid.
Edrychwch ar y daflen hon newidiadau-i-denantiaid gan y bydd gobeithio yn eich helpu i ddeall beth mae’r cyfan yn ei olygu a’r hyn y byddwn yn ei wneud o heddiw.
Mae ein staff i gyd wedi derbyn hyfforddiant ar y Ddeddf a byddant yn gallu ateb eich cwestiynau, eich pwyntio i gyfeiriad gwybodaeth bellach a sicrhau eich bod yn teimlo’n gyfforddus gyda’r hyn y mae hyn yn ei olygu i chi, ein tenantiaid, ein partneriaid a’n cymuned.
Mwy o wybodaeth am Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru, gallwch glicio yma